Datganiad hygyrchedd y Porth Addysg, Sgiliau a Chyflogaeth a Chymwysiadau Cysylltiedig
Mae'r gyfres hon o wefannau yn cael ei rheoli gan Dîm Datrysiadau Digidol Llywodraeth Cymru gyda'r nod o sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu eu defnyddio. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- Chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
- Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- Defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Hygyrchedd y Wefan
Rydym yn gwybod nad yw rhywfaint o wybodaeth/dogfennau y ceir mynediad atynt trwy'r ap Inform Reports yn gwbl hygyrch gan fod llawer o’r dogfennau mewn fformat PDF ac nid ydynt ar gael i feddalwedd darllenydd sgrin:
Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad at rannau o'r wefan hon
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddarllen neu recordiad sain:
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- Beth yw cyfeiriad gwe (URL) yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
- Y fformat yr hoffech gael yr wybodaeth ynddo
- Pa dechnolegau cynorthwyol rydych chi'n eu defnyddio
Ar gyfer Casglu Data Ôl-16 ac adroddiadau
- E-bost: LLWR@medr.cymru
Ar gyfer Prentisiaethauh
- E-bost: Apprenticeships@medr.cymru
Ar gyfer Twf Swyddi Cymru
- E-bost: askjgwplus@llyw.cymru
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 15 diwrnod gwaith.
Os na allwch ddod o hyd inni drwy’r cyfeiriad ar y dudalen cysylltu â Llywodraeth Cymru, ffoniwch neu anfonwch e-bost i ofyn am gyfarwyddiadau.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd.
Ar gyfer adroddiadau Casglu Data Ôl-16 ac Inform
- E-bost: LLWR@medr.cymru
Ar gyfer Prentisiaethau
- E-bost: Apprenticeships@medr.cymru
Ar gyfer Twf Swyddi Cymru
- E-bost: askjgwplus@gov.wales
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Ffôn Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi’n hapus â'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn wyneb yn wyneb
Rydym yn darparu gwasanaeth trosi i destun i bobl sy'n Fyddar neu sydd ag amhariad ar eu clyw neu eu lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni https://post16-portal-service.gov.wales/contact-us
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud gwefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r Porth Addysg, Sgiliau a Chyflogaeth, Casglu Data, apiau CPS ACP a CPS JGW+ wedi'u diweddaru i gydymffurfio â safonau WCAG 2.2 AA.
Mae'r ap Inform Reports yn cynnwys nifer o ddogfennau pdf.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae'r cynnwys nad yw'n hygyrch wedi'i amlinellu isod gyda manylion am:
- Y mannau lle nad yw’n cwrdd â’r meini prawf llwyddiant
- Y dyddiadau sydd wedi’u pennu ar gyfer pryd y bydd materion yn cael eu datrys
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd rydyn ni'n eu cyhoeddi ar Inform Reports fod yn gwbl hygyrch. Fodd bynnag, gwyddom nad yw rhai o'n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Nid yw llawer o'n dogfennau PDF y gellir cael mynediad atynt trwy'r ap Inform Reports yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u marcio fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Mae rhai o'n dogfennau PDF yn hanfodol er mwyn cynnig ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau.
Maen prawf llwyddiant (Defnyddio Lliw)
- Ddim wedi eu marcio mewn ffordd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr darllenydd sgrin eu deall
- Ddim wedi eu tagio'n iawn, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol
- Ddim wedi'u hysgrifennu mewn Saesneg clir
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018.
O fis Ebrill 2025 bydd unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 8 Medi 2021. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar yn Gorffennaf 2025. Cynhaliwyd y prawf gan y Tîm Datrysiadau Digidol.
Fe wnaethom brofi:
- Platfform ein prif wefan, sydd ar gael yn https://post16-portal-uat.gov.wales
- Porth Addysg, Sgiliau a Chyflogaeth, Casglu Data, Inform Reports, CPS ACP a CPS JGW+ - apiau sydd wedi'u lleoli ar blatfform technegol gwahanol ond sydd wedi'u teilwra o ran eu diwyg fel eu bod yn edrych fel ein hap symudol ni
Paratowyd y datganiad hwn ar 8 Medi 2021. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Gorffennaf 2025.